|
Hanes - The Original Butterfly Man

Os y mentrwch i’r heolydd bychain rhwng Carrog a Llangollen
yn Ne Clwyd, efallai y cewch eich synnu o ddod ar draws ffermdy gwyngalchog
wedi ei orchuddio â haid liwgar o löynnod byw anferth.
Rwy’n falch o ddweud mai fy nghartref i yw’r ffermdy: yr un yw’r
hanes sut yr ymddangosodd y glöynnod byw yn y rhan anghysbell hon o Ogledd
Cymru a hanes fy mrwydr bersonol ugain mlynedd i wireddu breuddwyd. Dechreuodd
fy stori yng Ngwanwyn 1969 pan adewais bentref Glyndyfrdwy ger Carrog ym mryniau
yr hên Feirionnydd i gyflawni fy uchelgais fel bachgen i deithio’r
byd. Roeddwn yn saer ac yn bwriadu talu am fy antur drwy weithio fy ffordd o
wlad i wlad. Flwyddyn yn ddiweddarach yng ngwyllgoed Seland Newydd roeddwn yn
agosau at fwthyn i holi am waith pan sylwais fod y porth wedi ei addurno â
cherfiad hardd o löyn byw pren. Roedd ei effaith arnaf mor drawiadol roedd
fel syrthio mewn cariad. Fy meddwl cyntaf oedd pa mor dda y byddent yn edrych
ar fythynnod gwyngalchog Cymru. Meddyliais “Un diwrnod mi wnaf löynnod
byw mor hardd â hyn a bydd pobl ledled Cymru yn rhuthro i’w harddangos
ar furiau eu bythynnod”.
Ni feddyliais fwy am y peth hyd nes y cefais fy hun yn Awstralia yn ystod dirwasgiad
1971 pan oeddwn mor dlawd fel ei bod yn rhaid i mi fynd i olchi ffenestri i
ennill fy nhamaid. Un bore ar ôl noson anesmwyth, deffroais gan feddwl
“Pam na fuaswn i’n trio gwneud arian drwy werthu glöynnod byw?”
Felly, fe ddechreuais i, gan eu cerfio allan o dameidiau o goed a’u peintio
orau fedrwn i. Cymerai wythnosau o lafur caled i greu ond llond dyrnaid. Yna
ceisiais eu gwerthu. Roedd mor anobeithiol fel yr euthum hyd yn oed i guro ar
ddrysau i’w gwerthu. “Give it a go, Pom, paint’em in the colours
of local football teams” oedd un ymateb. Awgrymodd wag arall y dylwn eu
gwerthu “with wheels on, mate, then the kids can pull ‘ em along
like toy aeroplanes”. Roedd yn sefyllfa ddigalon iawn, doedd neb eisiau
fy ngwaith llaw cywrain. Erbyn 1973 roeddwn adref eto yng Nglyndyfrdwy ac yn
ysu am ddechrau gwneud glöynnod byw yn yr hên ysgubor y tu ôl
i’r ffermdy yr oeddwn wedi penderfynu ei ddefnyddio fel fy ngweithdy.
Wedi misoedd o rwystredigaeth, bu’n rhaid i mi roi’r gorau iddi
gan fod yr amser oedd ei angen i gerfio hyd yn oed un yn gwbl aneconomaidd.
Prin oedd gennyf amser i ennill fy mywoliaeth fel saer.
O gwmpas y cyfnod hwn reoddwn mor ddigalon fel y dechreuais roi
rhai o’r glöynnod byw fel anrhegion i rai o’m ffrindiau. Efallai
yng nghefn fy meddwl yr oeddwn yn gobeithio petai digon o bobl yn sylwi arnynt
ar furiau bythynnod, efallai y byddai’n ysgogi diddordeb yn lleol.
Ni chafwyd dim adwaith, felly, yn hytrach na hel meddyliau am
y broblem, yn 1974, euthum i deithio i Ganada, Alasga a’r Unol Daleithiau.
Pan gyrhaeddais adre’n ôl ar ddiwedd y flwyddyn, cefais fy synnu
o glywed fod pobl yn fy absenoldeb wedi bod yn holi pwy oedd y dyn o Lyndy-frdwy
oedd yn gwneud glöynnod byw.
Chefais i ddim amser i weld faint o ddiddordeb gwirioneddol oedd
oherwydd roeddwn eisoes wedi cynllunio i ymgymeryd â thaith bwysicaf fy
mywyd – teithio dros y tir o Fecsico i lawr drwy Dde Amerig i’r
Wladfa Gymreig ym Mhatagonia.
Cychwynnais allan yn llawn cyffro ond roedd gan Ffawd sioc arall ar fy nghyfer
aherwydd yn ystod fy niwrnod cyntaf wrth deithio ym Mecsico cefais fy mygio!.
Ym Mhatagonia ymsefydlais yn hapus ym mhentref bychan Trelew.
Un diwrnod penderfynais roi anrheg i’m lletywraig ac yn fy amser hamdden
dechreuais gerfio fersiwn mawr iawn o löyn byw pren. Pan oedd yn barod,
fe’i gosodais ar ddarn o deiar car a’i glymu ar wal y ty. Mae’r
ardal honno o Batagonia yn enwog am ei gwyntoedd cryfion, felly wrth i mi gychwyn
i’r gwaith yn ddiweddarach y bore hwnnw, roeddwn yn falch o weld fod y
teiar yr oeddwn wedi gosod y glöyn arno yn gweithio fel clustog sbringar
gan beri i’r pryfyn grynu a rhwystro’r gwynt rhag ei daro yn erbyn
y wal. Hanner dydd, cyrhaeddais adref i ddarganfod y pentref yn ferw. Roedd
plant ysgol yn mynd adref am eu cinio wedi cael braw ofnadwy wrth weld glöyn
byw anferth yn hwyfo ar wal uwchben stryd y pentref. Cyn i unrhyw fedru eu rhwystro
neu esbonio wrthynt nad oedd yr ‘anghenfil’ yn fyw roeddent wedi
casglu pentwr o ffrwythau pwdr i daflu at fy nghampwaith. Medrwn weld yr ochr
ddoniol, wrth gwrs, ond roeddwn yn dechrau holi fy hun a oedd ‘jinx’
ar fy ymdrechion oherwydd mi wnaeth y digwyddiad chwalu unrhyw obeithion oedd
gennyf am werthu glöynnod byw ym Mhatagonia.
Aeth saith mlynedd heibio hyd nes un bore yn 1982 yn ôl
yng Nglyndyfrdwy, ar wyliau o’r Ariannin a heb fedru dychwelyd fel canlyniad
i’r rhyfel am Ynysoedd y Malfinas, daeth yr hên ysfa yn ôl
i’m haflonyddu. Meddai wrthyf, “Rho un tro olaf ar y glöynnod
byw”. Oherwydd fy mod yn ofni fod pobl wedi methu â gweld fy modelau
cynharach oherwydd eu bod yn rhy fach penderfynais dynnu sylw drwy eu gwneud
hyd at ddeunaw modfedd o led – yn wirioneddol fawr, mewn geiriau eraill!.
Yn fawr neu beidio ac er iddynt gael eu harddangos yn siop fwyaf
Llangollen, nid oedd y glöynnod byw yn gwerthu o hyd. Ac ar ben hynny,
ail ymddangosodd yr hên broblem fod gormod o amser a llafur yn mynd i
gynhyrchu ond un. Os na fedrwn i ddarganfod dull mwy economaidd o gynhyrchu,
gwyddwn mai dyma ddiwedd fy mreuddwyd. Ar ben fy nhennyn, dechreuais ymchwilio
sut y gallwn wneud cyrff glöynnod o fowld. Wedi misoedd o arbrofion rhwystredig,
llwyddais yn y diwedd i wneud mowldiau digon da i gynhyrchu nifer fechan o gyrff.
Yr un pryd, dysgais sut i gynhyrchu setiau o adenydd allan o alwminiwm
o ansawdd uchel. Nawr roeddwn yn hyderus y buaswn yn llwyddo. Y cyfan oedd ei
angen arnaf oedd dull lwyddiannus o werthu a chan ei bod bron yn wythnos gyntaf
Gorffennaf, 1984, roeddwn yn sicr y byddwn yn ei ddarganfod – ar stepan
fy nrws! Ni fyddai unman gwell i werthu y glöynnod nag Eisteddfod Ryngwladol
Llangollen! Codais fy stondin ger y fynedfa i faes yr Eisteddfod yn sicr y byddai
canran sylweddol o’r miloedd o bobl yn pasio o flaen fy nhrwyn yn oedi
i brynu. Cefais gryn syndod pan fethodd y gwerthiant unwaith eto. Mae pobl yn
aml yn gofyn i mi sut y gwnes i gael yr ewyllys i barhau bryd hynny. Dywedais
bod dau beth i gyfrif am hynny. Yn y lle cyntaf, rwyf bob amser wedi bod yn
berson cryf a phenderfynol iawn – er enghraifft nid wyf yn meddwl y byddai’r
rhan fwyaf o bobl wedi dyfalbarhau ar daith trwy Dde Amerig ar ôl i rywun
ymosod arnynt y diwrnod cyntaf fel a ddigwyddodd i mi, ac yn yr ail le roedd
gennyf ffydd gadarn petawn i’n medru gwneud digon o bobl yn ymwybodol
o fodolaeth y glöynnod, y byddai fy mreuddwyd o’u gweld yn addurno
cartrefi ledled Cymru yn cael ei wireddu. Penderfynais hefyd i ymgymryd â
ymgyrch ‘hysbysebu’ feiddgar a fu yn fy meddwl ers rhai blynyddoedd.
i hybu y busnes yn iawn credwn y byddai’n rhaid targedu mannau allweddol
yng Ngogledd Cymru a’u mwydo gyda esiamplau rhad ac am ddim o’m
gwaith. Fel canlyniad, cafodd nifer fawr o drigolion yn byw ar y dair briffordd
i mewn i Langollen syndod o dderbyn samplau rhad ac am ddim o’r addurniadau
ty heirdd hyn.
Pan roddwyd ganiatad i arddangos y glöynnod hyn ar dy, byddwn
yn rhedeg i fyny’r ysgol i osod un neu ddau, cyn i’r preswylwyr
gael amser i newid eu meddyliau. Fe’u dosberthais yng Nghorwen ac o gwmpas
Porthmadog yn ogystal â Phenrhyn Llyn ac Ynys Môn, ardaloedd lle
roedd twristiaid yn debygol o ddod ar eu traws. Yn ystod y misoedd hynny roeddwn
yn llawn cyffro. Credwn y gallai fy nghynllun marchnata anarferol ond gwych
arwain ymwelwyr o Ogledd Cymru gyfan i heidio i’r fferm i brynu.
EUREKA! Llwyddodd y cynllun! Gwellodd busnes a dechreuodd y glöynnod
werthu yn Llangollen. Rhaid i mi gyfaddef teimlo’n falch fy mod wedi profi
fy ngwerth ac hefyd yn falch – nid am gynhyrchu rhywbeth a oedd i rai
pobl yn ‘hardd’, ond am greu drwy benderfyniad yn unig, farchnad
a ymddangosai yn amhosib i’w hennill am gyhyd.
Ond roedd un siom arall yn fy wynebu. Ar ôl i mi rannu gwerth
cannoedd o bunnau o löynnod i greu marchnad, roeddwn bron yn fethdalwr.
Ar fin llwyddo bu’n rhaid i mi roi’r gorau i werthu glöynnod
a dychwelyd i’ngwaith fel saer. Aeth dwy flynedd arall heibio cyn fod
gennyf ddigon o arian i gomisiynnu proses a fedrai cynhyrchu cyrff glöynnod
mewn niferoedd mawr.
O’r diwedd fe wireddwyd fy mreuddwyd. Nawr mae gennyf gartref
newydd a gweithdy crefft mewn safle amlwg ar ochr yr A5 ym mhentref Glyndyfrdwy,
hanner ffordd rhwng Llangollen a Chorwen, Clwyd. Nawr mae pobl o dros y byd
yn cael eu denu at ddrws y ‘Dyn Glöyn Byw’ i brynu anrhegion
i addurno cartrefi. Mewn rhai ffyrdd rwyf ychydig yn drist nad yw’r glöynnod
yn cael eu gwneud o goed mwyach. Ar y llaw arall, ni fydd adenydd alwminiwm
y modelau newydd byth yn rhydu ac ni fydd eu cyrff neilon byth yn pydru. mae
hyd yn oed y paent lliw realistig a ddefnyddir ar yr adenydd o enamel o’r
ansawdd uchaf (paent car) a byddant yn para yn hir iawn. Bydd problemau o hyd
yn codi eu pen mewn busnes, mae’n siwr gen i, ond rwyf wedi fy nghythruddo’n
arw fod fy llwyddiant wedi esgor ar nifer o efelychiadau o ansawdd israddol
sy’n sarhad ar fy ngwaith ac yn arbennig felly fod rhai o’r bobl
ddiegwyddor hyn yn eu gwerthu gan hawlio eu bod yn gynnyrch y ‘Dyn Glöyn
Byw Gwreiddiol’.
Bydd rhai hyd yn oed yn defnyddio cerdyn post o fy nghartref wedi
ei orchuddio mewn glöynnod byw I hudo bobl I gredu fod yr hyn sydd ganddynt
I’w gynnig wedi ei wneud gennyf i. Mae hyn yn dangos pan fo rhywun ar
ben ei dennyn y gwnaiff unrhyw beth. Fyddai byth yn fodlon. Mae llawer o nghwsmeriaid
yn teimlo yr un fath hefyd. Yn ddiweddar ysgrifennodd un ohonynt yn fy llyfr
ymwelwyr “Beth am lindys nesaf?” Nid yw’n syniad ffôl,
efallai y gwnaiff rhywun geisio gwneud un rhyw dro. Fy newis i yn lle, ar gyfer
y 90au oedd datblygu glöynnod pedair adain a rhai ‘piggy back’
a phecynnau paentio gartref. Ar ôl fy holl lwyddiant a hynt a helynt byd
busnes, y pleser mwyaf rwyf wedi ei gael hyd yn hyn yw gweld wynebau hapus yn
syllu i fynny ar fy ngwaith a’r bodlonrwydd mwyaf a gaf yw meddwl am y
miliynau o bobl yn cael eu synnu gan fy ngwaith yn britho tai ar hyd a lled
yr Ynysoedd Prydeinig a nifer o wledydd y byd.
Ai chi fydd y nesaf, tybed?
|